Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 14 Mawrth 2017.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Mae hi'n gywir i godi'r mater: am bob 20, mae naw wedi cael eu gwerthu ers 1981. Hyd yn oed mwy o ystadegau i ychwanegu at hynny: rydyn ni wedi samplo tua wyth awdurdod yng Nghymru lle mae eisoes yn hysbys i ni y rhai sydd wedi cael eu gwerthu. Felly, o’r 48 y cant hwnnw o'r rhai sydd wedi cael eu gwerthu, mae 12 y cant ohonynt wedi mynd i mewn i'r farchnad rentu yn y sector preifat hefyd, felly nid ydynt hyd yn oed yn cael eu defnyddio fel hawl i brynu; maent yn cael eu defnyddio fel rhaglenni sy'n gwneud elw i fuddsoddwyr—eto, rhywbeth nad yw'n ddefnyddiol ar gyfer darparu tai fforddiadwy i unigolion.
O ran y pwynt olaf ynglŷn â rhannu gwybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny, boed hynny yn wybodaeth sy'n cael ei hanfon allan gan Lywodraeth Cymru neu gan dai cymdeithasol. Ond mae'n rhywbeth y byddwn i'n awyddus iawn i’w sicrhau, lle mae gwerthiant gwirfoddol yn digwydd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig neu gyngor, bod yr arian hwnnw yn dod yn ôl, ac yn cael ei ail-fuddsoddi mewn polisi tai eto, a byddai honno’n egwyddor bwysig y byddaf yn gobeithio ei gwireddu yn y pwyllgor.