Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 14 Mawrth 2017.
Rwy'n ddiolchgar am sylwadau cytbwys yr Aelod, eto. Roedd hwn yn ymrwymiad yn y maniffesto a gymerwyd gennym trwy holl sianelau’r rhaglen maniffesto. Aethom at y bobl a phleidleisiodd y bobl o’i blaid. Cawsom y fraint o gael ein hethol fel y Llywodraeth, ac yn awr rydym yn cwblhau’r addewid maniffesto hwnnw fel y nodwyd.
Byddaf yn cymryd y pwynt olaf yn gyntaf, os caf, o ran y gallu i wneud yn siŵr bod cyllid yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl mewn tai. Rydym wedi newid y rheolau yn awr, ond y broblem yw ein bod wedi colli’r stoc dai. Mae awdurdodau yn awr yn gallu cynnal 100 y cant o'r gwerthiant a'i roi yn ôl i mewn i'r ddarpariaeth dai. Felly, rydym wedi gwneud newidiadau i'r broses ariannol a ddechreuwyd 35 mlynedd yn ôl—mae'n wahanol iawn heddiw. Ond rydym wedi colli llawer iawn o stoc, a dyna pam—. Rwyf hefyd yn cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, gan ddweud na fydd hyn yn cynyddu niferoedd y stoc, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw eu cadw fel endidau. Pan fydd y rhain yn cael eu gwerthu, fel y dywedais yn gynharach, mewn wyth awdurdod a gafodd eu samplo, mae dros 12 y cant o'r rhain wedi mynd i mewn i'r sector rhentu preifat, felly nid ydynt yn rhan o’r sector cymdeithasol y crëwyd nhw ar ei gyfer.
Mae'r Aelod yn gywir yn ei rhagdybiaeth am y cyfnod gras dros dro a gallu'r rhai sydd eisoes wedi’u hatal; ni fyddant yn cael y cynsail i wneud cais am y cyfnod gras o 12 mis. Nid yw'n gymwys iddyn nhw. Y rheswm am hynny a'r rheswm pam y cyflwynwyd hyn yn y lle cyntaf yw oherwydd bod pwysau yn sgil prinder tai yn y maes penodol hwnnw ac, felly, ni fyddem am weld cynyddu gwerthiant yn y meysydd hynny yn awr neu o fewn y cyfnod pum mlynedd. Mae llawer o ddadansoddi wedi bod wrth brofi’r awdurdodau lleol pan fyddant yn gwneud cais am atal. Felly, ymhen 12 mis, ni fyddai’r sefyllfa honno wedi newid. Ni fyddem wedi cynyddu'r cyflenwad tai yn sydyn gan 250 neu beth bynnag y gall y rhif hwnnw fod. Felly, ni fydd yn gymwys i'r rhai sydd eisoes ar hyn o bryd o fewn y gostyngiad dros dro o ran hawl i brynu.
Credaf fy mod i wedi ymdrin â thri chwestiwn yr Aelod.