Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 14 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, cyn i chi lansio’r Bil hwn neu yn wir cyn ichi ei gynnwys yn eich maniffesto cyn etholiadau'r Cynulliad, tybed a wnaethoch ystyried adolygu'r meini prawf cymhwyso. A wnaethoch chi edrych o gwbl ar faint o bobl sydd wedi prynu eu cartrefi ac yna wedi aros ynddynt am flynyddoedd ac, yn wir, am ddegawdau, neu wedi eu trosglwyddo i lawr i'w teuluoedd? Oherwydd, wrth gwrs, pan fydd pobl yn siarad am hyn, rhagdybir, ar unwaith, y byddai'r 140,000 o gartrefi hyn ar gael i bobl yn awr, heddiw, i fyw ynddynt. Wrth gwrs, nid yw hyn yn wir, oherwydd i ble mae’r bobl hynny yn mynd i fynd? Gallai'r un peth fod yn wir am y 250 o bobl sy'n ceisio prynu eu cartrefi yn awr. Nid ydynt yn mynd i ddiflannu yn sydyn; maent yn dal yn mynd i aros yn y cartrefi hynny. Ni fydd yn cynyddu'r stoc dai.
Mae fy ail gwestiwn i chi yn ymwneud â'r cyfnod gras. Dywedasoch yn gynharach, ac rwyf eisiau eglurhad ar hyn, na fyddai'r cyfnod gras yn gymwys i'r bobl hynny a oedd yn awyddus i brynu, ond nad ydynt wedi prynu gan fod y cyngor wedi atal yr hawl i brynu. Felly, a allwch chi esbonio pam nad ydych yn mynd i roi'r cyfnod gras hwnnw iddyn nhw hefyd? Oherwydd mae gennyf nifer o etholwyr oedd eisiau prynu, sydd wedi methu â phrynu, a dywedwyd wrthynt, 'Peidiwch â phoeni, mesur dros dro yn unig yw hyn.' Yn awr, mae’r cyfle hwnnw i fod yn berchen ar gartref eu breuddwydion yn mynd i gael ei dynnu oddi arnynt am byth.
Rwy'n credu, yn olaf, roeddwn i eisiau gwybod—mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi anghofio’n llwyr beth oedd hynny. O, mae'n ddrwg gennyf. Yn olaf, roeddwn eisiau gwybod, yn eich meini prawf cymhwyso, a fyddech wedi ystyried mewn gwirionedd, wrth werthu unrhyw gartref, bod yr arian bellach yn cael ei glustnodi ar gyfer ailadeiladu tai cymdeithasol. Rwy’n llwyr dderbyn, dros y 35 mlynedd diwethaf, na wnaeth pobl adeiladu’r cartrefi yr oedd ganddynt y cyfle i wneud hynny, ond nid yw hynny'n golygu na allech fod wedi gwneud newid i hynny. Un cwestiwn cyflym olaf: a yw hyn yn golygu nad ydych yn ymddiried yn eich cynghorau sir i atal lle maent ei angen, oherwydd eich bod yn tynnu’r pŵer hwn oddi wrthynt yn barhaol? Byddwn wedi dweud bod hynny yn erbyn yr agenda lleoliaeth. Diolch.