Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 14 Mawrth 2017.
Maent wedi gorfod tynnu £1.5 miliwn oddi ar y swm hwnnw. Felly, yr hyn yr wyf am ei wybod, Ysgrifennydd y Cabinet yw hyn: o ystyried yr holl bwyntiau yr ydych wedi eu gwneud yn eich datganiad heddiw, a ydych chi wedi gwneud asesiad o faint o dai yr ydych yn disgwyl i’r polisi hwn eu diogelu, yn awr ac yn y dyfodol yn y sector tai cymdeithasol, ac yn bwysicach, a ydych chi wedi gwneud asesiad o sut y gallai hyn leddfu'r pwysau ar restrau aros am dai cyngor?