7. 3. Datganiad: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 14 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 4:12, 14 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Yn fy marn i, ychydig iawn o bobl sy’n credu mewn gwerthu stoc a pheidio rhoi rhywbeth yn ei le. Fy nghwestiwn yn wir yw hyn: beth sydd o'i le mewn gwerthu tai cymdeithasol yn gyfrifol, ac ail-fuddsoddi er mwyn adeiladu mwy o dai cymdeithasol i greu cylch rhinweddol a galluogi pobl i fod yn fwy annibynnol? Ac mae'n debyg, mewn gwirionedd, y gellid cyfeirio hyn at bawb, gan fod pawb yma yn berchen ar eu cartref eu hunain. Yn awr, nid wyf am beri embaras ar bobl; mae rhai pobl yn berchen ar fwy nag un cartref. Ac eto i gyd, a ydych chi’n credu ei bod yn eironig bod y bobl sydd yma, bawb yn berchen ar eu cartref—onid ydych yn credu ei bod yn eironig eich bod yn dweud wrth bobl y dosbarth gweithiol nad ydynt yn gallu bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain?