Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 14 Mawrth 2017.
Mae hwnnw’n bwynt diddorol iawn y mae’r Aelod yn ei godi, a'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yma yw nad ydym yn atal pobl rhag bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Rydym yn gwneud yn siŵr bod cynnyrch ar gael a fydd yn caniatáu i bobl ymuno â’r farchnad dai, a'r rheini yw'r cynlluniau yr wyf wedi siarad amdanynt: y rhaglenni cymorth i brynu a rhentu i brynu sydd bob amser yn cefnogi gallu pobl i wneud hynny. Nid wyf yn anghytuno â'r Aelod o ran yr economi cylchol a gwneud yn siŵr os ydym yn gwerthu un tŷ, ein bod yn adeiladu un arall. Nid yw hynny wedi digwydd yn y gorffennol, a dyna pam yr ydym yn ceisio diogelu'r stoc sydd gennym yn awr. Yn y gorffennol—a bydd yr Aelod yn ymwybodol o hyn—mae’r cartrefi wedi eu gwerthu ac mae’r Cyfrif Refeniw Tai dim ond wedi caniatáu i'r gwariant cyfalaf o 75 y cant gael ei gadw yn ôl i mewn, felly roeddech bob amser ar eich colled ac ni allech adeiladu eiddo newydd ar hynny. A dyna pam ei bod yn bwysig i ni atal y cynnig hwnnw rhag digwydd. Rydym yn mynd i fod yn adeiladu mwy o dai cymdeithasol ar gyfer pobl sydd eisiau hynny, ond rydym hefyd yn darparu cynnyrch fel y gall pobl gamu ar ysgol y farchnad dai, os mai dyna beth maent am ei wneud.