Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 14 Mawrth 2017.
Lywydd, eto, liciwn i ddechrau drwy ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei groeso ar gyfer y datganiad heddiw. Fe wna i ddechrau eich ateb chi drwy gytuno gyda’ch dadansoddiad cyntaf chi ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod nad yw hyn yn fusnes fel arfer a’n bod ni eisiau newid pethau. Rwy’n gobeithio, drwy osod targed uchelgeisiol megis miliwn o siaradwyr, ein bod ni’n newid y ffordd rydym yn gweithio ym mhob un rhan o’n gwaith ni. Addysg yr ydym yn ei thrafod y prynhawn yma, ond mi fyddwn yn newid pob un o’r agweddau a’r ffyrdd gwahanol o weithio y tu mewn i’r Llywodraeth a thu fas i’r Llywodraeth. Rwy’n awyddus iawn, fel roeddwn yn trio ei ddweud wrth Darren Millar, ein bod ni’n cydweithio gyda llywodraeth leol a’n bod ni’n gweld hyn fel project ar y cyd, menter ar y cyd—ein bod ni’n cydweld y dyfodol a’n bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gyda ni y cynlluniau sydd eu hangen arnom ni. Felly, nid wyf i eisiau gwrthwynebu unrhyw gynllun sydd gennym ni ar hyn o bryd; beth rwyf eisiau ei weld yw cynlluniau rydym yn gallu eu derbyn.
Rydych chi wedi gofyn cwestiwn sydd efallai yn anodd i mi ei ateb. Newidiadau i bob cynllun? Rwyt ti’n fy nhemtio i, Llyr. A gaf i ddweud hyn? Mi fydd yr uchelgais mewn rhannau gwahanol o Gymru yn wahanol, ac rydym yn dechrau o fannau gwahanol mewn rhanbarthau gwahanol o’n gwlad. Beth rwyf eisiau ei weld yw yr uchelgais priodol ar gyfer pob un rhan o Gymru, a bydd hynny yn meddwl y bydd angen tipyn bach mwy o newid i rai cynlluniau nag i eraill. Ond beth rwy’n awyddus i’w wneud yw creu awyrgylch o gydweithio, a dyna beth rwy’n mawr obeithio y bydd Aled yn ei wneud. Fel cyn-arweinydd cyngor Wrecsam, mae ganddo brofiad o redeg cyngor ac arwain newid mewn llywodraeth leol, ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n penodi rhywun gyda’r math yna o brofiad, a rhywun sy’n deall natur a gofynion addysg Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae’r cwestiynau rydych chi wedi eu gofyn obeutu trafnidiaeth yn rhan o hynny. Rwyf yn meddwl—ac rydych yn hollol iawn yn y ffordd rydych chi wedi disgrifio sgôp y rôl—mai’r swyddogaeth gyntaf yw sicrhau bod gennym ni gynlluniau strategol addysg Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhaid i hynny fod yn rôl gyntaf, ac mae’n rhaid i hynny ddigwydd yn ddigon buan yn ystod y misoedd nesaf.
Ond rwyf wedi dweud o’r blaen mewn ateb i gwestiynau fy mod i eisiau gweld fframwaith deddfwriaethol, efallai, gwahanol ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi awgrymu—ac mae’r Papur Gwyn mae Mark Drakeford wedi ei gyhoeddi ar lywodraeth leol wedi rhagweld—newidiadau yn y ffordd rydym ni yn cynllunio addysg Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae hynny yn rhywbeth rwyf am ei ystyried, achos rwyf yn meddwl bod yn rhaid i ni newid y ffordd rydym yn meddwl obeutu hyn, ac os oes angen newid, mae gennym ni Bapur Gwyn ar y gweill ar hyn o bryd ar gyfer y Gymraeg, ac efallai y bydd hynny yn rhoi cyfle i ni drafod y materion yma mewn mwy o fanylder. Ond, yn bendant, rwyf yn gweld yr ail ran o’r swydd yma yn ystyried yn fwy eang sut mae darpariaeth addysg Gymraeg yn cael ei gynllunio ar gyfer y dyfodol; efallai bydd pethau fel mesur y galw yn rhan o hynny, ac rwy’n ddigon agored iddo fod yn rhan o hynny.
Hefyd, rwyf yn gobeithio y bydd gennym ni fframwaith newydd ar ôl y cyfnod yma—cyfnod 2020. Fe fydd y cyfnod a’r fframwaith newydd ar ôl 2020 ar gyfer darparu, cynllunio a datblygu addysg Gymraeg ar draws Cymru.