Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 15 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua £300 miliwn y flwyddyn i Ddinas a Sir Abertawe ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl Abertawe. Yn yr Arolwg Cenedlaethol Cymru diweddaraf, roedd nifer y bobl a oedd yn teimlo bod Dinas a Sir Abertawe yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ychydig dros 50 y cant. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn credu bod hyn yn cynrychioli gwerth am arian, a beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu ac i geisio cyrraedd 70 y cant yn yr arolwg nesaf a gwella ar hynny yn y dyfodol?