<p>Prosiectau Gwasanaethau Cyhoeddus</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 15 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 15 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu bod pobl Abertawe yn cael gwerth da am arian o’r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn eu gwasanaethau cyhoeddus—gwasanaethau iechyd a gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Wrth gwrs, mae angen i ni fod yn uchelgeisiol parthed lefelau boddhad. Mae lefelau boddhad y gwasanaeth iechyd, fel y gwyddoch, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn eithriadol o uchel a bob amser wedi bod. Gwn fod cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn anelu at gyflawni lefelau boddhad tebyg yn y dyfodol.