Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 15 Mawrth 2017.
Fe gawsom ni ddeialog, llai ystyrlon efallai, ychydig ddyddiau nôl ar draws y Siambr ynglŷn â’r cwestiwn o falans y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar draws ein rhanbarthau, a gad i mi bwysleisio nad oes unrhyw beth y byddwn i am ddweud a fyddai’n wrth-Caerdydd, ond a fyddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon ystyried comisiynu ymchwil fel bod gyda ni ystadegau i edrych ar yr agendor sydd yna dros gyfnod o flynyddoedd—mae wedi bod yna dros ddegawdau—ynglŷn â buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y gwahanol ranbarthau?
Ac, yn olaf, wrth ffocysu ar gyfle euraid i’r Cymoedd, nid wyf yn gofyn iddo fe ddweud beth fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru, ond mae hwn yn rhan o’i gyfrifoldeb ef, a all yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud a ydy unrhyw benderfyniad neu unrhyw gyhoeddiad ynglŷn â’r Circuit of Wales yn cael ei effeithio gan reolau Llywodraeth Cymru ynglŷn â ‘purdah’ llywodraeth leol a fydd yn digwydd ymhen 10 diwrnod, neu, gan ei fod yn gyhoeddiad o bwys cenedlaethol, fydd e ddim?