Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 15 Mawrth 2017.
Gadeirydd, clywais y drafodaeth yn y Siambr ddoe rhwng arweinydd y tŷ a’r Aelod mewn perthynas â buddsoddi mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae llawer o wybodaeth eisoes ar gael am batrymau buddsoddi dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n siŵr y gellid sicrhau bod y wybodaeth ar gael. Yn bersonol, rwy’n canolbwyntio mwy ar sicrhau ein bod yn gwneud y buddsoddiadau cywir ar gyfer y dyfodol a’n bod yn buddsoddi ein hadnoddau cyfalaf prin mewn ffordd sy’n sicrhau ffyniant i bawb ym mhob rhan o Gymru.
O ran y cwestiwn ar Gylchffordd Cymru, gwn fod fy nghyd-Aelod, Ken Skates, wedi crybwyll yr hyn y mae eisoes wedi ei addo i’r Siambr hon, sef cyfnod o graffu ar y cynlluniau terfynol a ddaeth i law gan Gylchffordd Cymru. Bydd yn dymuno gwneud hynny gydag ymdeimlad priodol o ddiwydrwydd dyladwy a bydd yn rhaid iddo gymryd yr amser sydd ei angen i wneud y gwaith hwnnw. Rwy’n siŵr ei fod yn ymwybodol o’r purdah, ond bydd yn canolbwyntio, rwy’n siŵr, ar sicrhau bod y cynlluniau a gyflwynwyd yn destun i’r lefel gywir o graffu er mwyn iddo allu gwneud argymhelliad i’r Cynulliad Cenedlaethol maes o law.