<p>Cyllideb y Gwanwyn</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 15 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:07, 15 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, gall yr Aelod fod yn sicr ein bod yn cadw llygad barcud wrth chwilio am yr union fathau hynny o ystrywiau, ac mae fy swyddogion wedi bod yn edrych yn ofalus iawn ar fanylion yr hyn a ddywedwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch, mae’r gyllideb yn wledd newidiol iawn yn wir, a newidiodd eto o fewn yr awr ddiwethaf yn unig gyda chamu’n ôl eto o’r argymhellion a wnaed gwta wythnos yn ôl. Ond rydym yn edrych yn fanwl iawn ar y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud ac yn herio lle y mae angen i ni wneud hynny, lle y credwn fod dosbarthiadau’n cael eu defnyddio ar gam er anfantais i symiau canlyniadol Barnett.