Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 15 Mawrth 2017.
Mae cyllideb y gwanwyn yn darparu hwb o £150 miliwn i gyllideb adnodd Llywodraeth Cymru a £50 miliwn i’w chyllideb cyfalaf, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £10 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, er mwyn helpu i dalu costau ychwanegol yr isafswm cyflog cenedlaethol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i roi ystyriaeth gref i ddefnyddio peth o’r cynnydd yn y grant bloc i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?