Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 21 Mawrth 2017.
Mae ffigurau o fanc Lloyds wedi dangos bod 40 y cant yn llai o fusnesau wedi cael eu sefydlu yn y pum mlynedd diwethaf yma yn sir Benfro, Gwynedd, Ceredigion a sir Fôn, i gymharu gyda chwymp o 26 y cant ar draws Cymru ac 20 y cant yn Lloegr. A ydy’r Prif Weinidog yn fodlon edrych i fewn i’r rhesymau pam fod y ffigurau mor wahanol yn y siroedd gorllewinol o’u cymharu, yn nodweddiadol, gyda llefydd fel Blaenau Gwent, lle gwelwyd cwymp o dim ond 8 y cant? Mae’r wobr yn mynd i Ferthyr, lle roedd cwymp o llai na 0.5 y cant. A ydy’r Prif Weinidog yn fodlon gofyn i’w Weinidogion i edrych ar y mater yma o beth sy’n digwydd yn y gorllewin yn uniongyrchol ar y pwnc yma?