Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 21 Mawrth 2017.
Rwy’n credu eich bod chi’n sôn am ffigurau banc Lloyds. Nid ydym yn gwybod beth yw’r fethodoleg maen nhw wedi’i ddefnyddio, nac, wrth gwrs, beth yn gwmws yw natur y ‘data set’. Wrth ddweud hynny, mae’r nifer o enedigaethau busnes wedi cynyddu o 8,225 yn 2011 i 11,525 yn 2015. Ond, wrth gwrs, fe wnawn ni ystyried y ffigurau sydd wedi dod o fanc Lloyds, er mwyn gweld os oes unrhyw fath o broblem fan hyn sydd eisiau ei datrys mewn un rhan o Gymru.