Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 21 Mawrth 2017.
Wel, mae ein cyfradd ddiweithdra yn well na'r Alban, a dweud y gwir. Mae ein twf economaidd yn well na'r Alban. Rydym ni wedi gwneud yn llawer gwell na Llywodraeth yr Alban yn hynny o beth. A gaf i hefyd ddweud bod y cynlluniau y mae ef wedi cyfeirio atynt wedi eu gordanysgrifio? Efallai fod y ffenestr yn fyr, ond serch hynny, mae'r cynlluniau’n boblogaidd, maen nhw’n cyflawni ac mae eu hystadegau economaidd yn dangos hynny.