<p>Busnesau Bach yng Ngorllewin Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:33, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddwy gronfa buddsoddiad busnes newydd o £7 miliwn yr un. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ymhen dim ond pum wythnos. Digwyddodd yr un peth gyda'r gronfa twf a ffyniant y llynedd. Fe’i cyhoeddwyd ar 17 Medi y llynedd ac roedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau mawr bedair wythnos yn unig yn ddiweddarach. Mae Llywodraeth yr Alban wedi creu cronfa £500 miliwn â ffenestr agored ar gyfer ceisiadau dros dair blynedd. Mae’n ymddangos ein bod ni’n rhedeg y sioe drwy: bob tro y mae Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i rywfaint o arian i lawr cefn soffa Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, mae’n cyhoeddi cronfa newydd, ac mae'n cael ei chau cyn i’r rhan fwyaf o fusnesau gael y cyfle i glywed amdani. Y gwrthwyneb i strategol yw hyn, a byddwn yn dweud wrth y Prif Weinidog, yn dyner, ei fod yn gwneud i Gymru edrych yn amaturaidd.