<p>Cysgu Allan</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae gwerthusiad annibynnol o weithrediad Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi ei gomisiynu, a disgwylir adroddiad interim ar ffurf drafft erbyn mis Mehefin eleni. Bydd y gwaith hwnnw'n ein helpu i ddeall sut mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu trin o dan y ddeddfwriaeth, a gallaf ddweud bod systemau monitro eraill yn cael eu harchwilio er mwyn cynorthwyo â’r monitro blynyddol sy'n digwydd. Bydd rhagor o wybodaeth am hynny ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, ein bwriad yw gweithio gydag awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am ddiwallu anghenion yn eu hardaloedd lleol, i sicrhau nad yw pobl yn dod yn ddigartref yn y lle cyntaf, a dyna, wrth gwrs, yw bwriad y ddeddfwriaeth.