1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2017.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chysgu allan yng Nghymru? OAQ(5)0518(FM)
Mae cysgu ar y stryd, rydym ni’n gwybod, yn broblem mewn sawl rhan o Gymru, a dyna pam mae gennym ni’r ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi ei phasio i sicrhau yr ymdriniwyd â chysgu ar y stryd. Ceir marc cwestiwn ar hyn o bryd o ran ein gallu i ddeall niferoedd y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Gall fod yn anodd asesu’r bobl hyn, ond nid ydym yn hunanfodlon, ac rydym ni’n parhau i fuddsoddi drwy ein rhaglen Cefnogi Pobl a grantiau atal digartrefedd.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, amlygodd adroddiadau yn y wasg brofiad pobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghastell-nedd. Roedd y bobl a gyfwelwyd wedi bod trwy golli swyddi, anhawster yn hawlio budd-daliadau, carchar a chaethiwed, a gwnaethant siarad yn deimladwy am yr effaith ar eu hiechyd a'u hymdeimlad o unigrwydd. Cydnabyddir bod y ddeddfwriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio ati yn un sydd wedi gwneud cynnydd gwych, yn enwedig o ran atal, ac rwy’n croesawu’r ffaith fod Cefnogi Pobl yn cael ei gadw, fel y soniwyd ganddo yn ei ymateb. Ond mae Shelter yn credu bod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cysgu ar y stryd yn golygu, yn eu geiriau nhw:
Yn syml, nid ydym yn gwybod digon am...gysgu ar y stryd i allu ei ddatrys.
Tynnwyd sylw ganddynt hefyd at y diffyg cymharol o lety Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Yn ogystal â'r mesurau sydd eisoes ar waith, a wnaiff y Prif Weinidog edrych felly ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cysgu ar y stryd, fel y gallwn ddeall y ffordd orau o fynd i'r afael â hynny, ac a wnaiff ef edrych hefyd ar faint o stoc Tai Cyntaf sydd ar gael yng Nghymru?
Gwnaf. Mae gwerthusiad annibynnol o weithrediad Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi ei gomisiynu, a disgwylir adroddiad interim ar ffurf drafft erbyn mis Mehefin eleni. Bydd y gwaith hwnnw'n ein helpu i ddeall sut mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael eu trin o dan y ddeddfwriaeth, a gallaf ddweud bod systemau monitro eraill yn cael eu harchwilio er mwyn cynorthwyo â’r monitro blynyddol sy'n digwydd. Bydd rhagor o wybodaeth am hynny ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, ein bwriad yw gweithio gydag awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am ddiwallu anghenion yn eu hardaloedd lleol, i sicrhau nad yw pobl yn dod yn ddigartref yn y lle cyntaf, a dyna, wrth gwrs, yw bwriad y ddeddfwriaeth.
Brif Weinidog, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, mae Shelter yn poeni’n fawr bod yna ddiffyg data ar gael ar gyfer monitro’r hyn sydd yn digwydd yng Nghymru. Rwy’n credu gyda nifer o gynlluniau eraill, megis Cymunedau dros Waith a Chymunedau yn Gyntaf, mae data a diffyg data yn thema sydd yn dod trwyddo gan eich Llywodraeth chi. Gyda mater sydd mor bwysig, a gyda’r ffaith bod gennym ni Ddeddf mor gryf, pam ydy sefyllfa’n codi ble mae yna ddiffyg data ar rywbeth mor bwysig? Pa waith, yn ogystal â’r gwaith rydych chi newydd sôn am yn eich ymateb i Jeremy Miles, sydd yn mynd i fod yn digwydd er mwyn sicrhau na fydd yna dwf y flwyddyn nesaf yn y nifer o bobl sydd yn ddigartref?
Un peth o’r data sydd yn bwysig i ddweud yw bod yr ystadegau'n dangos, yn 2015-16, bod y ddeddfwriaeth ei hun yn llwyddiannus er mwyn helpu 65 y cant o deuluoedd a oedd o dan bwysau, ac efallai’n colli tŷ o achos hynny. Felly, rŷm ni’n gwybod bod hynny wedi gweithio’n dda dros ben, ond fel y dywedais i’n gynharach, mae’n hollbwysig i sicrhau bod y data sydd gyda ni yn ddigonol er mwyn sicrhau ein bod yn deall bod y ddeddfwriaeth yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol ag sy’n bosibl.
Fel aelod o'r gweithgor amlasiantaeth a thrawsbleidiol a ymgyrchodd yn llwyddiannus o dan arweiniad yr ymgyrchwyr cymunedol Ymgyrchwyr Trefnu Cymunedol Cymru i sefydlu lloches nos Tŷ Nos yn Wrecsam, mae'n arbennig o rwystredig bod cyfrifiad cenedlaethol diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r rheini sy’n cysgu ar y stryd nid yn unig yn dangos cynnydd o 72 y cant i bobl sy'n cysgu ar y stryd ledled Cymru, ond bod y niferoedd yn Wrecsam ar noson y cyfrif i fyny o 17 i 27 o’i gymharu â’r blynyddoedd cynt, a Wrecsam oedd â’r gyfran uchaf o bobl, 61, yn cysgu ar y stryd dros gyfnod o bythefnos yng Nghymru—sy’n sylweddol uwch na Chaerdydd, hyd yn oed. Sut, felly, ydych chi’n cynnig y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â grŵp llywio fforwm canol tref Wrecsam, y mae ei gadeirydd, Andrew Atkinson, wedi dweud ei bod yn bryd i bawb roi gwleidyddiaeth o'r neilltu, rhoi'r gorau i feio ei gilydd a gweithio gyda'i gilydd ar y ddwy ochr i fynd i’r afael â phroblemau’r dref?
Mae'r Aelod yn dyfynnu ymgeisydd Ceidwadol, efallai nad yw’r unigolyn mwyaf gwrthrychol, fel y gwyddom, i’w ddyfynnu ar hyn o bryd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod yn rhaid i’w blaid ef gymryd cyfrifoldeb am hyn. Mae llawer o bobl yn dod yn ddigartref oherwydd y newidiadau i fudd-daliadau lles. Mae'r ergyd y mae pobl wedi ei chael gan y dreth ystafell wely—[Torri ar draws.] Ydy, mae'n wir i ddweud ein bod ni’n bwriadu defnyddio deddfwriaeth a dulliau eraill i geisio atal digartrefedd, ond wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am gymryd arian oddi wrth bobl a’u rhoi mewn perygl o fod yn ddigartref. Ac felly, mae’n rhaid i’w blaid ef dderbyn cyfrifoldeb am lawer o'r bygythiad o ddigartrefedd y mae’n rhaid i bobl ei wynebu.
Brif Weinidog, yn anffodus, mae'r naratif ynghylch cysgu ar y stryd wedi bod yn gwbl wenwynig. Yn hytrach nag ystyried pobl sy'n cysgu ar y stryd fel eneidiau truenus, anffodus sy’n gorfod dod o hyd i loches mewn drysau siopau gan wynebu hypothermia a newyn, mae llawer wedi eu hystyried a’u brandio fel tramgwyddwyr a phla i’w waredu o’n strydoedd mawr. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi, yn hytrach na chyflwyno gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r bobl hyn neu eu rhoi dan glo am gardota, y dylai cynghorau ledled Cymru fod yn darparu lloches ac yn gweithio gyda’r gwahanol asiantaethau a phartneriaethau i ddod o hyd i lety a chymorth parhaol iddynt?
Wel, nid wyf yn siŵr y gallwch chi roi pobl dan glo am gardota mwyach, ond rwy’n derbyn y pwynt am stigma. Rwyf i wedi bod ym mws porffor Byddin yr Iachawdwriaeth sy'n ymddangos ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd. Rwyf wedi gweld a chyfarfod llawer o'r bobl sy'n ddigartref. Mae ganddyn nhw straeon gwahanol iawn i'w hadrodd. Mae'n rhaid i rai ohonyn nhw frwydo â chaethiwed, mae rhai ohonynt yn ei chael hi’n anodd iawn aros mewn llety pan eu bod yn cael eu llety, a cheir llawer o broblemau y mae’n rhaid i unigolion eu hwynebu. Ond trwy waith grwpiau fel Byddin yr Iachawdwriaeth gyda'r llety y maen nhw’n ei gynnig, gan weithio gydag awdurdodau lleol a’r Llywodraeth, ein nod yw cynnig ateb cyfannol i'r problemau y mae cymaint o bobl yn eu hwynebu sy’n eu gwneud yn ddigartref yn y lle cyntaf.