Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 21 Mawrth 2017.
Brif Weinidog, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, mae Shelter yn poeni’n fawr bod yna ddiffyg data ar gael ar gyfer monitro’r hyn sydd yn digwydd yng Nghymru. Rwy’n credu gyda nifer o gynlluniau eraill, megis Cymunedau dros Waith a Chymunedau yn Gyntaf, mae data a diffyg data yn thema sydd yn dod trwyddo gan eich Llywodraeth chi. Gyda mater sydd mor bwysig, a gyda’r ffaith bod gennym ni Ddeddf mor gryf, pam ydy sefyllfa’n codi ble mae yna ddiffyg data ar rywbeth mor bwysig? Pa waith, yn ogystal â’r gwaith rydych chi newydd sôn am yn eich ymateb i Jeremy Miles, sydd yn mynd i fod yn digwydd er mwyn sicrhau na fydd yna dwf y flwyddyn nesaf yn y nifer o bobl sydd yn ddigartref?