Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 21 Mawrth 2017.
Mae'r Aelod yn dyfynnu ymgeisydd Ceidwadol, efallai nad yw’r unigolyn mwyaf gwrthrychol, fel y gwyddom, i’w ddyfynnu ar hyn o bryd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod yn rhaid i’w blaid ef gymryd cyfrifoldeb am hyn. Mae llawer o bobl yn dod yn ddigartref oherwydd y newidiadau i fudd-daliadau lles. Mae'r ergyd y mae pobl wedi ei chael gan y dreth ystafell wely—[Torri ar draws.] Ydy, mae'n wir i ddweud ein bod ni’n bwriadu defnyddio deddfwriaeth a dulliau eraill i geisio atal digartrefedd, ond wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am gymryd arian oddi wrth bobl a’u rhoi mewn perygl o fod yn ddigartref. Ac felly, mae’n rhaid i’w blaid ef dderbyn cyfrifoldeb am lawer o'r bygythiad o ddigartrefedd y mae’n rhaid i bobl ei wynebu.