Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 21 Mawrth 2017.
Brif Weinidog, yn anffodus, mae'r naratif ynghylch cysgu ar y stryd wedi bod yn gwbl wenwynig. Yn hytrach nag ystyried pobl sy'n cysgu ar y stryd fel eneidiau truenus, anffodus sy’n gorfod dod o hyd i loches mewn drysau siopau gan wynebu hypothermia a newyn, mae llawer wedi eu hystyried a’u brandio fel tramgwyddwyr a phla i’w waredu o’n strydoedd mawr. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi, yn hytrach na chyflwyno gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r bobl hyn neu eu rhoi dan glo am gardota, y dylai cynghorau ledled Cymru fod yn darparu lloches ac yn gweithio gyda’r gwahanol asiantaethau a phartneriaethau i ddod o hyd i lety a chymorth parhaol iddynt?