Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Mawrth 2017.
Ac ydych chi’n hyderus, Brif Weinidog, gyda'r cytundeb hwn, y bydd GYG, sydd tua 74 y cant o lefel y DU yn ninas-ranbarth Abertawe, yn cynyddu dros 15 mlynedd y cytundeb. Felly, a allwch chi roi dangosyddion pendant i ni y byddwch chi’n eu meincnodi, ac y bydd eich Llywodraeth yn eu meincnodi, fel llwyddiant? Beth allwn ni ei ddisgwyl ymhen tair, pump, wyth a 10 mlynedd pan fydd y cytundeb hwn yn cael ei gyflwyno, fel y gallwn eich marcio chi a Llywodraeth y DU a'r partneriaid ar gynnydd i lefelau GYG yn y maes hwn? Oherwydd mae’n hanfodol bod pobl yn gallu gweld cyfoeth a chyfleoedd yn cynyddu, yn hytrach na rhai o'r sylwadau bachog yr ydym ni wedi eu cael ar fentrau adfywio eraill sydd efallai wedi digwydd yn y gorffennol.