Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 21 Mawrth 2017.
Ceir problem yng Nghymru, fel sydd yn y DU a dweud y gwir, ynghylch cynhyrchiant. Nid oes unrhyw fwled arian hawdd sy'n ymdrin â chynhyrchiant, ond un maes lle gellir gwella cynhyrchiant yw drwy sgiliau a darparu i bobl drwy’r sgiliau hynny swyddi sy'n talu'n well. Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig sut yr ydym yn barnu a yw'r cynllun yn llwyddiannus. Ceir dwy ffordd o fesur: yn gyntaf oll, cynnydd i GYG y pen ac yn ail, cynnydd i GYG y pen o’i gymharu â gweddill Cymru a gweddill y DU. Rwy’n disgwyl gweld y ddau beth hynny yn cael eu cyflawni.