<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:45, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn innau ddymuno pen-blwydd hapus i'r Prif Weinidog, hefyd, a’i sicrhau, wrth i chi heneiddio, nad oes unrhyw beth i'w ofni cyn belled â'ch bod yn parhau i fod mewn iechyd perffaith fel fi. Bydd y Prif Weinidog yn cytuno—[Torri ar draws.] Bydd y Prif Weinidog yn cytuno, rwy'n siŵr, beth bynnag fo’n gwahanol safbwyntiau ar Brexit, bod ansicrwydd i’w resynu, ac mae Prif Weinidog y DU, o leiaf, ar fin datrys un ansicrwydd drwy sbarduno erthygl 50. Mae'n anffodus, fodd bynnag, bod Nicola Sturgeon bellach wedi ceisio creu ansicrwydd arall dros refferendwm yn yr Alban, gan fod yn ffyddiog, heb os, y byddai Prif Weinidog y DU yn gwrthod ei chais. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai’r ffordd orau o leihau’r ansicrwydd penodol hwn yw derbyn her Nicola Sturgeon a chynnal refferendwm.