Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 21 Mawrth 2017.
Wel, yn gyntaf oll, dylwn ddiolch i arweinydd UKIP ac, yn wir, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am eu dymuniadau da, o wahanol safbwyntiau, yn wir, yn hynny o beth. Ond fy marn i yw, ac rwyf i wedi dweud hyn yn gyhoeddus, os bydd Senedd yr Alban yn pleidleisio i gynnal refferendwm, ni ddylai Llywodraeth y DU atal Senedd yr Alban, ddim mwy nag y dylai’r Comisiwn Ewropeaidd neu Senedd Ewrop fod wedi atal y DU rhag cynnal refferendwm ar Brexit. Rwy'n credu ei bod yn iawn os bydd Senedd yr Alban yn cefnogi refferendwm ac yn edrych ar ddyddiad penodol, y dylai safbwyntiau Senedd yr Alban gael eu parchu.