Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 21 Mawrth 2017.
Rwy'n falch o glywed y Prif Weinidog yn dweud hynny, oherwydd rwy’n cytuno ag ef mai anaml iawn y mae’n anghywir i ymgynghori â phobl ar fater pwysig fel hwn. Pe byddai ymgyrch refferendwm, byddai hefyd yn berthnasol i Gymru i ryw raddau, gan fod gan yr Alban ddiffyg yn y gyllideb o £15 biliwn y flwyddyn, er ei bod yn economi fwy na Chymru, ac mae’n debyg iawn i’r ffigur sydd gennym ni yma—diffyg o £15 biliwn. Mae hynny, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o arian o un rhan o'r DU i un arall, a fyddai'n diflannu pe byddai Cymru neu'r Alban yn dod yn wleidyddol annibynnol.