<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:48, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n bwysig iawn, rwy’n meddwl—dylai pob un ohonom ni sy'n credu yng nghyfanrwydd y Deyrnas Unedig aros yn unedig ar y pwynt hwn y byddai Cymru, mewn gwirionedd, yn llawer tlotach pe byddai'n gadael y Deyrnas Unedig, oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gellid mantoli unrhyw doriad i unrhyw gyllideb gan adran y DU a fyddai'n cael ei ddatganoli i Gymru wedyn mewn unrhyw ffordd arall. Felly, gan fod gwariant cyhoeddus bron i 60 y cant o CDG Cymru erbyn hyn, byddai’n ergyd fawr i’r holl bobl dlawd ac agored i niwed, ac i bawb sy'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd gwladol a gwasanaethau cymdeithasol eraill ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant.