<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r achos dros annibyniaeth gan y rhai sy'n ei ddadlau yng Nghymru wedi ei seilio nid ar yr economi, yn fy marn i, ond ar emosiwn. Yr hyn y mae’n rhaid i ni warchod yn ei erbyn, yn fy nhyb i, yw nad yw'r achos emosiynol yn gorlethu'r un economaidd, a dyna pam mae’n hynod bwysig, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bod gennym ni strwythur ar waith sy'n adlewyrchu partneriaeth briodol o bedair gwlad y DU, ond nid yw'n achos o Lywodraeth y DU yn gorfodi ei hewyllys mewn meysydd datganoledig ar y Llywodraethau datganoledig, a bod gennym ni hefyd broses ddyfarnu annibynnol ar gyfer plismona rheolau marchnad sengl mewnol y DU. Rwy'n credu mai dyna’r ffordd ymlaen—parch at bedair hunaniaeth genedlaethol y DU, yn ogystal â hunaniaethau eraill o fewn y DU. Byddai hynny, i mi, yn cynrychioli canlyniad da iawn i Gymru. Ond fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth y DU—fe wnes i ddweud bod clust fyddar, er bod y cyfarfod ddoe yn well, mae’n rhaid i mi ddweud, nag unrhyw un yr ydym ni wedi ei gael yn y gorffennol. Mae'n bwysig iawn nad yw Llywodraeth y DU ei hun yn creu'r amodau lle mae pobl yn teimlo'n ddigon ddig i fabwysiadu’r safbwynt nad ydynt yn credu bod y DU yn werth ei chadw. Nid yw hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ei weld.