Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 21 Mawrth 2017.
Yn bersonol, rwy’n croesawu'n fawr yr arweinyddiaeth y mae'r Prif Weinidog yn ei dangos ar yr ymgyrch hon i gael confensiwn cyfansoddiadol. Ond, ymhellach i gwestiwn pwysig David Melding, ar hyn o bryd, ac yn dilyn y sesiwn ddiddorol honno a gawsom ddoe, lle'r oedd gennym ni fyfyrwyr y gyfraith o Brifysgol De Cymru yn yr oriel yn ein gwylio, os na fyddwn yn sicrhau mwy o gydraddoldeb o ran parch y gallech chi ei weld mewn cyngor Gweinidogion a dyfarnu annibynnol hefyd, beth yw eich prognosis, felly, wrth symud ymlaen, wrth i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a newid i fframwaith gwahanol iawn o fewn y DU? Beth yw eich prognosis os na fyddwn yn cael y mecanweithiau hynny ar waith?