<p>Confensiwn Cyfansoddiadol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 21 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 21 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae perygl y bydd y DU yn dechrau datod. Yn arbennig, un peth nad yw'n cael ei grybwyll yn aml, ond yr wyf yn credu sy’n werth ei nodi, yw’r hyn a allai achosi twf cenedlaetholdeb Seisnig, a phobl yn Lloegr yn teimlo bod y system yn gwneud cam â nhw. Ac rwy’n meddwl y gellir osgoi hyn oll yn weddol hawdd. Gall hunaniaethau cenedlaethol amlwg ein pedair gwlad gael eu cydnabod drwy gydnabod ar yr un pryd y diben cyffredin y mae’r DU yn ei ddarparu, ond mae hynny'n golygu sefydlu strwythur sy'n adlewyrchu'r ffaith fod hon yn bartneriaeth o genhedloedd, yn hytrach na chredu fod hyn yn rhywbeth tebyg i’r wladwriaeth unedol yr oedd y DU ym 1972, cyn iddi ymuno â’r hyn a oedd y Farchnad Gyffredin ar y pryd. Felly, mae modd datrys y materion hyn—nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl am hynny. Mae angen eu datrys fel, pan fydd y DU yn gadael yr UE, y bydd y strwythur hwnnw ar waith eisoes o ran marchnad sengl fewnol y DU, o ran cyngor y Gweinidogion, yn hytrach na'i wneud ychydig flynyddoedd wedi hynny ac yna gadael gwagle. Nid yw hynny o fudd i neb.