Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 21 Mawrth 2017.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae fy mhryderon yn debyg i'r rhai a godwyd gan Jeremy Miles yn gynharach, ond hoffwn ganolbwyntio ar un pwynt penodol. Cefais y cyfle yn ystod mis Ionawr hyd at yr wythnos hon i wirfoddoli yn lloches nos y gaeaf ym Merthyr Tudful a ddarparwyd gan y cyngor, ac mae’n debyg yr hoffwn nawr gofnodi fy niolch i Gyngor Merthyr Tudful am ddarparu’r lloches nos honno ac i’r gwirfoddolwyr anhunanol sydd wedi gweithio trwy gydol y cyfnod hwnnw i gefnogi'r trigolion yno. Ond mae’n debyg mai’r hyn a wnaeth effeithio mwy na dim arall arnaf oedd anobaith llwyr pobl sy'n canfod eu hunain yn ddigartref nawr. Roedd llawer o bobl yno yn defnyddio'r lloches a oedd wedi canfod eu hunain yn ddigartref am nifer o resymau y cyfeiriasoch atynt yn gynharach—problemau iechyd, a chaethiwed i gyffuriau, ac yn y blaen. Ond cefais fy nharo hefyd gan y nifer a oedd yno oherwydd chwalfa deuluol mewn perthnasoedd. Felly, nid oedd ganddynt broblemau eraill, dim ond nad oedd ganddynt unman arall i fyw, yn llythrennol. Ac yr oedd yn fath o sefyllfa sydd yn gwaethygu—