1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ(5)0515(FM)
Wel, gwnaf. Soniais yn gynharach am y ddeddfwriaeth a'r hyn yr ydym ni’n ei wneud i fonitro'r ddeddfwriaeth. Rydym ni’n parhau, wrth gwrs, i weithio gyda'r holl awdurdodau lleol i sicrhau mwy o gysondeb a chefnogaeth i'r rheiny sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae fy mhryderon yn debyg i'r rhai a godwyd gan Jeremy Miles yn gynharach, ond hoffwn ganolbwyntio ar un pwynt penodol. Cefais y cyfle yn ystod mis Ionawr hyd at yr wythnos hon i wirfoddoli yn lloches nos y gaeaf ym Merthyr Tudful a ddarparwyd gan y cyngor, ac mae’n debyg yr hoffwn nawr gofnodi fy niolch i Gyngor Merthyr Tudful am ddarparu’r lloches nos honno ac i’r gwirfoddolwyr anhunanol sydd wedi gweithio trwy gydol y cyfnod hwnnw i gefnogi'r trigolion yno. Ond mae’n debyg mai’r hyn a wnaeth effeithio mwy na dim arall arnaf oedd anobaith llwyr pobl sy'n canfod eu hunain yn ddigartref nawr. Roedd llawer o bobl yno yn defnyddio'r lloches a oedd wedi canfod eu hunain yn ddigartref am nifer o resymau y cyfeiriasoch atynt yn gynharach—problemau iechyd, a chaethiwed i gyffuriau, ac yn y blaen. Ond cefais fy nharo hefyd gan y nifer a oedd yno oherwydd chwalfa deuluol mewn perthnasoedd. Felly, nid oedd ganddynt broblemau eraill, dim ond nad oedd ganddynt unman arall i fyw, yn llythrennol. Ac yr oedd yn fath o sefyllfa sydd yn gwaethygu—
Mae angen i chi ddod at gwestiwn.
[Yn parhau.]—y mae’r bobl hynny yn ei hwynebu. Daeth y cwestiwn, Brif Weinidog, o drafodaeth a gefais gyda dau ddyn cymharol ifanc a benderfynodd mai’r ffordd orau iddynt allu codi eu hunain allan o ddigartrefedd oedd trwy ymuno â'i gilydd i gael lle i'w rentu. Roedden nhw wedi dod o hyd i le addas—
Mae wir angen i chi gyrraedd eich cwestiwn.
Mae angen i mi esbonio—
Na, rydych chi eisoes wedi esbonio eich esboniad, nawr dewch at eich cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Iawn. Nid oeddent yn gallu dod o hyd i warantwr, gan nad oedd ganddynt fynediad at unrhyw un a allai warantu’r rhent gyda'r landlord preifat. Felly, a allech chi, Brif Weinidog, roi rhyw syniad o'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, o bosibl drwy weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a darparwyr tai, i chwalu'r rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anodd i bobl ddigartref sicrhau llety rhent ac o bosibl ystyried—
A allwch chi ateb y cwestiwn os gwelwch yn dda, Brif Weinidog? Mae'r cwestiwn wedi'i ofyn.
Ceir nifer o faterion y mae fy nghyfaill yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni wedi eu nodi, sef, yn aml iawn, na all pobl gael eu hunain allan o'r twll y maen nhw’n canfod eu hunain ynddo: ni allant gael swydd, gan nad oes cyfeiriad ganddynt; ni allant edrych yn drwsiadus ar gyfer swydd, oherwydd nad oes ganddyn nhw unrhyw arian; maen nhw’n ei chael yn anodd cael cymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl neu ar gyfer problemau caethiwed. Ceir llwybrau y gall pobl eu dilyn a ddarperir gan nifer o sefydliadau trydydd sector, ond cael pobl ar y llwybr hwnnw yw’r peth anodd yn aml. Rwy’n amau, i lawer o unigolion, mai dull wedi'i deilwra'n benodol i'r unigolyn hwnnw fydd yn gweithio’n fwyaf effeithiol, ond, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn wynebu sefyllfa lle mae pobl yn ddigartref oherwydd nad oes ganddynt unrhyw le i fyw, yn llythrennol, ac na allant hawlio budd-dal tai oherwydd eu hoedran. Oherwydd hynny, maen nhw’n canfod eu hunain yn byw ar y strydoedd o ganlyniad i hynny, ac mae hynny'n rhywbeth y gallai Llywodraeth y DU fod wedi ei atal.
Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol raglen gwerth £14 miliwn i ddarparu dull arloesol o fynd i'r afael â digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys nifer o fentrau i helpu unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, i helpu’r rheini sy'n cysgu ar y stryd i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg, ac i fynd i'r afael â phroblemau sylfaenol pobl sy’n cysgu ar y stryd yn yr hirdymor, fel iechyd meddwl gwael neu gamddefnyddio sylweddau. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i ystyried rhaglen Llywodraeth y DU i weld pa fesurau y gellir eu cyflwyno i fynd i'r afael â digartrefedd ym Merthyr Tudful a rhannau eraill o’r de-ddwyrain?
Yn gyntaf, ceir llawer o bobl ifanc sy'n ddigartref oherwydd Llywodraeth y DU a'r penderfyniadau a wnaeth o ran cynorthwyo’r rheini a oedd angen rhywle i fyw. Nid oes ganddyn nhw unrhyw le arall i fyw; ni allant gael budd-dal tai; maen nhw’n ei chael hi’n anodd cael swydd; felly, maen nhw’n byw ar y strydoedd o ganlyniad i hynny. Gallai’r arian hwnnw fod wedi cael ei dargedu’n well, awgrymaf i’r Aelod, pe byddai wedi cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno.
Mae Llywodraeth y DU yn dal i fyny â ni. Mae ein rhaglen Cefnogi Pobl yn chwarae rhan bwysig iawn o ran atal digartrefedd. Rydym ni wedi diogelu’r gyllideb honno. Gwariwyd £124.4 miliwn gennym ar y rhaglen honno yn 2017-18. Rydym ni hefyd wedi datblygu nifer o ddulliau ar wahân i gefnogi’r aelodau hynny o’n cymuned sydd yn y perygl mwyaf—er enghraifft, cyn-filwyr, y rheini sy’n gyn-droseddwyr—a llwybr i geisio helpu pobl ifanc osgoi digartrefedd oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU. Felly, byddwn yn dadlau, mewn gwirionedd, bod Llywodraeth y DU yn ceisio dal i fyny â'r hyn yr ydym ni’n ei wneud eisoes.