Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 21 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. Wel, a gaf i yn gyntaf oll ganmol y ffordd adeiladol a diddorol iawn y mae’r Gweinidog a'i dîm wedi gweithio gyda ni ar graffu’r Bil hwn? Adroddwyd ar y Bil ar 10 Mawrth, gwnaed 12 o argymhellion, ac mae'n braf bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei araith heddiw ac mewn llythyr at y pwyllgor, wedi derbyn 10 argymhelliad. Felly, rydym yn nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ei fod wedi ceisio rhoi mwy o wybodaeth ar wyneb y Bil na'r hyn sy'n bodoli yn neddfwriaeth gyfredol y DU, ac rydym yn croesawu hynny. Ond rydym yn dal yn bryderus, mewn egwyddor, am nifer y pwerau Harri’r VIII y mae’r Llywodraeth Cymru hon yn ceisio eu cymryd yn y Bil hwn.
Mae ein hargymhelliad cyntaf yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch pam mae angen cymryd pwerau mor helaeth, ac rydym yn nodi sylwadau a rhesymeg Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, ac yn ei lythyr. Ond, yn ein barn ni, ni ddylai cynyddu faint o fanylion sydd ar wyneb y Bil gael ei weld fel trwydded ar gyfer defnyddio pwerau eang Harri’r VIII i newid deddfwriaeth sylfaenol drwy ddefnyddio is-ddeddfwriaeth, gan fod perygl y bydd craffu seneddol yn gyfyngedig. Ac rydym yn nodi, pa bynnag sicrwydd y mae’r Ysgrifennydd y Cabinet cyfredol, sydd wedi ymgysylltu mor dda â'r pwyllgor hwn, yn gallu ei gynnig i'r Cynulliad Cenedlaethol am ei fwriadau wrth ddefnyddio pwerau Harri’r VIII, nid ydynt wrth gwrs yn rhwymo ei olynwyr.
Rydym yn cydnabod nad yw’r tensiwn hwn rhwng hawliau’r ddeddfwrfa a dymuniadau’r Pwyllgor Gwaith yn newydd ac nid yw’n gyfyngedig i’r sefydliad seneddol hwn. Ond mae'n ddyletswydd arnom ni i barhau i godi'r pryderon hyn fel rhan o'r broses graffu, a byddwn yn gwneud hynny drwy gydol y pumed Cynulliad. Felly, heddiw rydym yn croesawu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn argymhelliad 2 ac yn nodi'r cyfiawnhad dros ddefnyddio pob pŵer Harri’r VIII yn y Bil. Bydd yn cynorthwyo ein gwaith craffu ar y rheoliadau sy'n deillio o'r pwerau hyn.
Mae Deddf Cymru 2017 bellach yn darparu pwerau a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil cyllid blynyddol yn y dyfodol. Rydym yn cytuno â'r Pwyllgor Cyllid y byddai Bil cyllid blynyddol yn golygu ffordd fwy tryloyw a mwy hygyrch o newid cyfreithiau sy'n ymwneud â threth. Er ein bod yn nodi dadl y Gweinidog dros beidio â gwneud hynny yn awr, yn ei lythyr, rydym yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth bellach i'r defnydd o Fil cyllid blynyddol yn y dyfodol.
Rydym yn croesawu penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i dderbyn argymhelliad mewn egwyddor i roi rhestr o ddeunydd cymhwyso ar wyneb y Bil yn adran 15, yn amodol ar drafodaeth gyda rhanddeiliaid. Nawr, fel mater pwysig o egwyddor, rydym yn dal i gredu y dylai rheoliadau sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol bob amser. Mae ein safbwyntiau cyson ar gofnod. Gwnaethom dair set o argymhellion i gymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i reoliadau gael eu gwneud o dan adrannau 40, 59 a 90 o'r Bil sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Er ein bod yn croesawu ei benderfyniad i dderbyn yr argymhelliad mewn cysylltiad ag adran 59, rydym yn gresynu na chafodd ei argyhoeddi i dderbyn yr argymhellion mewn cysylltiad ag adrannau 40 a 90.
Wrth gloi, trof at adran 90, sy'n ymwneud â rheoliadau a all wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â'r Bil. Oherwydd bod modd defnyddio’r pwerau hyn mor eang, rydym yn gwneud argymhellion yn gofyn am eglurhad ynghylch pam mae angen y pwerau hyn ar Ysgrifennydd y Cabinet a sut y mae'n bwriadu eu defnyddio. Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr wybodaeth yn ei lythyr, a fydd yn ddefnyddiol i'r pwyllgor.
Ond, fel y dywedais eisoes, rydym hefyd yn argymell cyflwyno gwelliant i'r Bil fel bod rheoliadau o dan adran 90 sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Yn ei ymateb, nododd Ysgrifennydd y Cabinet fod y dull gweithredu yn dilyn yr un a gymerir yn y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Wrth gwrs, roedd ein hadroddiad ar y Bil hwnnw hefyd o blaid y defnydd o'r weithdrefn gadarnhaol, ond cafodd yr argymhelliad hwnnw hefyd ei wrthod. Fodd bynnag, o bwys a diddordeb arbennig yw bod y darpariaethau cyfatebol a geir ym Miliau eraill Llywodraeth Cymru, megis, er enghraifft, y Bil iechyd y cyhoedd a'r Bil dysgu ychwanegol, yn unol â barn y pwyllgor hwn a'r argymhellion hynny. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei atebion, egluro’r anghysondeb ymddangosiadol o fewn Llywodraeth Cymru ar y pwynt pwysig hwn o egwyddor.
Ond wrth gloi, a gaf i ddiolch iddo ef a'i dîm eto am yr ymgysylltiad adeiladol iawn â gwaith craffu ein pwyllgor? Rwy'n edrych ymlaen at ei ymateb.