Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 21 Mawrth 2017.
A gaf i ddweud ar y dechrau y bydd Plaid Geidwadol Cymru yn cefnogi’r egwyddorion cyffredinol a geir yn y Bil hwn? I bob pwrpas, mae’r Bil yn disodli'r dreth bresennol ac yn gweithredu ein cyfrifoldebau datganoledig yn y maes hwn. Yn wir, rwy’n credu ei fod yn ddatblygiad mawr mewn llywodraethu yng Nghymru bod gennym yn awr y pwerau a'r cyfrifoldebau hyn. Bydd yn adeiladu atebolrwydd ein system lywodraethu yn sylweddol. Mae hynny, rwy’n credu, yn egwyddor gadarn iawn o fodel San Steffan. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym yn ei groesawu.
Rwy’n credu, felly, bod y ffordd y mae’r Bil hwn wedi cael ei ddatblygu a'i gyflwyno yn arbennig o bwysig. Mae'n un o'r Biliau cynharaf—yr ail, yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Roeddwn yn falch, o leiaf, o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud mai ei fwriadau ar gyfer y Bil hwn oedd bod yn glir, yn syml ac yn hygyrch. Credaf fod hynny’n gosod y math o safon y byddem yn ei disgwyl ac, yn amlwg, y safon y gellir craffu arni wedyn wrth i'r Bil gael ei archwilio’n fanwl gan y pwyllgorau perthnasol fel CLAC a chyllid, ond hefyd yng Nghyfnod 2.
Rwy'n credu bod cydymffurfio a gorfodaeth wrth wraidd deddfwriaeth gadarn yn y maes treth hwn. Yn sicr, dylai cydymffurfio gael ei wella gan ddeddfwriaeth sydd yn gliriach ac yn symlach, fel ei bod yn rhywbeth y gall pobl ei deall yn rhwydd. Unwaith eto, mae honno'n bendant yn egwyddor yr ydym yn ei chroesawu. Rwy'n credu y bydd gorfodaeth yn gofyn am gydweithrediad effeithiol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol. Yn amlwg, mae hynny'n mynd â ni i mewn i faes ehangach, ond mae bob amser yn bwysig cofio, wrth osod fframwaith sy'n gymharol hawdd ei orfodi, ein bod wedyn yn gwneud cymwynas â'r cyhoedd. Rwy'n credu bod y rhwystrau yn y maes hwn o ran codi tâl ar y rheini sy'n ddefnyddwyr heb awdurdod a gwneud hwnnw yn ddewis mwy costus, yn amlwg, mae hynny'n fuddiol, ond mae angen cyfle teg i ddal y bobl hynny ac mae hynny, rwy’n credu, yn ei dro, yn gofyn am gydweithrediad effeithiol rhwng yr asiantaethau allweddol. Mae llawer o'r Bil yn ymwneud, mewn gwirionedd, ag elfennau technegol gosod treth a sut mae hynny'n cael ei gynllunio a'i gymhwyso yn effeithlon. Mae hynny wir yn bwysig ac rwy'n ddyledus i'r Pwyllgor Cyllid am y gwaith y maent wedi ei wneud yn y maes hwn.
Rwyf yn aelod o CLAC, felly roeddwn eisiau troi, yn olaf, at y mater hwn o bwerau Harri’r VIII. Maent yn wir yn ddyfais sy'n rhoi llawer o rym yn nwylo’r Weithrediaeth ac yn diystyru swyddogaeth ddeddfwriaethol craffu llawn a phriodol. Nawr, rwy’n clywed—. Mae’r Gweinidog, yn ei ffordd ddengar iawn, ac nid dyma’r tro cyntaf, mae wedi ein tawelu wrth ddweud ei fod yn defnyddio hyn oherwydd ei fod eisiau cymaint ar wyneb y Bil. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn gadarn yma, oherwydd er fy mod yn croesawu cymaint o fanylion ar wyneb y Bil—. Ac, wrth gwrs, mewn meysydd treth rydych yn sylweddoli bod pethau yn newid ac mae'n rhaid gwneud addasiadau. Ond fel y dangosodd Cadeirydd CLAC mewn ffordd mor fedrus, y ffordd o amgylch hyn fyddai cael Bil cyllid blynyddol. Felly, rwy’n parhau i wrthwynebu troi at bwerau Harri’r VIII mewn unrhyw sefyllfa oni bai argyfwng, yn wir, ond efallai y gallai roi rhywfaint o sicrwydd ei bod yn fwriad gan y Llywodraeth yn eithaf buan i symud at yr arfer o Fil cyllid blynyddol, sydd wedyn yn gwneud y stranciau penodol hyn yn ddiangen. Ond, ar y cyfan, rydym yn cytuno â’r egwyddorion cyffredinol ac yn awr yn edrych ymlaen at Gyfnod 2.