Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 21 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n credu y dylwn ymddiheuro’n fawr dros yr Aelodau yr ydych, yn sicr yn fy achos i, yn oddefgar iawn wedi caniatáu iddynt gyfrannu at y ddadl hon; ymddiheuraf i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am beidio â dal o leiaf rhan gyntaf ei sylwadau. Y peth a nodais fwyaf yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ac mae wedi meddwl ac mae wedi ystyried beirniadaeth ac awgrymiadau adeiladol ac mae wedi dod i'r Siambr heddiw gyda safbwynt diwygiedig. Fel y Cadeirydd ac Aelodau eraill, rwy'n ddiolchgar bod cynifer o argymhellion y Pwyllgor Cyllid wedi cael eu derbyn yn llawn neu'n rhannol.
Mae fy mhlaid i yn bwriadu cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn heddiw. Penderfynwyd cyn yr etholiad y byddem yn cefnogi'r datganoli trethi a oedd yn y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi gyda'r bwriad o gael setliad datganoli sefydlog. Nid wyf yn siŵr ein bod yn mynd i gael hynny, ond, serch hynny, byddwn yn cefnogi datganoli'r dreth benodol hon. Nodaf y drafodaeth a gawsom, o leiaf yn y tymor canolig, am yr angen am Fil cyllid. Byddwn yn credu ei bod yr un mor bwysig y dylai’r Bil cyllid hwnnw, o ystyried y byddwn yn symud at strwythurau cyllidebol newydd, ganiatáu nid yn unig i'r Siambr fynegi ei barn ar y lefel o dreth neu'r cymhwysedd treth, ond dylai fod posibilrwydd tebyg i ddylanwadu ar y lefel neu'r blaenoriaethau o fewn ochr gwariant y cyfriflyfr.
Rwy'n credu mai’r peth mwyaf siomedig ar y funud yw peidio â chael y cyfraddau cychwynnol ar wyneb y Bil. O ystyried bod hon yn dreth gynnar a gafodd ei datganoli i ni yn y Cynulliad hwn neu'r Senedd, byddai'n briodol nodi hynny gan y ddeddfwrfa hon sy’n penderfynu beth yw’r gyfradd dreth. Yn syml, nid yw’r syniad hwn yn foddhaol, sef y dylid ei adael i Weinidogion ac y dylem, ar y mwyaf, gael penderfyniad cadarnhaol, fel y dywedwyd yn fedrus gan bobl eraill, na ellir ei newid. Mae’r mater a drafodwyd ynghylch sicrwydd i drethdalwyr, ond rwy’n credu bod y mater o egwyddor yn llawer mwy sylfaenol: ai’r ddeddfwrfa etholedig ddylai fod yn trethu pobl Cymru, neu ai’r Gweinidogion ddylai fod yn gwneud hynny drwy ryw broses eilaidd? Rwy'n eithaf clir ynghylch fy safiad i a fy mhlaid ar hynny, ac rwy'n synnu nad ydym o leiaf wedi cael cefnogaeth lafar gan rai eraill yn y Siambr i’r cynnig. Efallai eu bod yn gwneud cytundebau eraill ac yn cael trafodaethau, a dymunaf yn dda iddynt. Ond serch hynny, rwy’n credu fel egwyddor y byddai'n llawer gwell cael y cyfraddau yn i ddechrau ar wyneb y Bil.
A gaf i dynnu sylw at un maes lle rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei fod yn barod i newid y ddeddfwriaeth, ac roeddwn yn credu ei fod yn arbennig o bwysig? Aethom ni fel Pwyllgor Cyllid i safle ailgylchu a gwaredu Lamby Way—er bod y gwaredu yn dod i ben cyn bo hir—ac yn ogystal â gweld dargyfeiriad afon Rhymni, roeddwn yn llawn edmygedd o’r ffordd yr oedd y pwyso yn digwydd. Nodais mai’r broses oedd bod y lori yn cario’r gwastraff yn dod i mewn, yn cael ei phwyso gan y bont bwyso wrth iddi ddod i mewn, yna roedd yn cael gwared ar y gwastraff ac yna’n cael ei phwyso ar y ffordd allan, a'r gwahaniaeth rhwng y mesuriadau hynny oedd swm y gwastraff a waredwyd, a dyna beth sy'n sbarduno cymhwysedd y dreth. Felly, roeddem yn pryderu o weld yn y Bil, fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol, ei bod yn ofynnol pwyso'r gwastraff oedd yn cael ei waredu cyn ei waredu, a fyddai wedi bod yn gwbl groes i’r hyn a oedd yn cael ei weithredu mewn gwirionedd, o leiaf ar y safle hwnnw, ond o bosibl mewn safleoedd eraill. Felly, rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ystyried barn y pwyllgor ar yr anhawster deddfwriaethol penodol hwnnw, ac rwy’n credu, yn sicr o'r hyn yr wyf wedi ei weld hyd yn hyn, bod y ffordd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r ffordd y mae’r broses ddeddfwriaethol hon yn gweithio wrth i ni gymryd deddfwriaeth treth i’r lle hwn yn glod i'r sefydliad ac i’r rhai sydd ynghlwm wrth y gwaith. Diolch.