Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 21 Mawrth 2017.
A gaf i hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Rwyf hefyd am ddiolch i fy ffrind a fy nghydweithiwr yma, Dafydd Elis-Thomas, am ddweud popeth wrthyf am reolau Brenin Harri’r VIII, nad oeddwn yn gwybod llawer amdanynt cyn y ddadl hon. Rwyf fwy na thebyg yn gwybod ychydig mwy am hynny yn awr nag yr wyf am safleoedd tirlenwi. Ond mae'n dda cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwyf wrth fy modd, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi ystyried ein pryderon am fynwentydd anifeiliaid anwes domestig, neu yn syml mynwentydd anifeiliaid anwes fel yr oedd yn y Gymraeg—roedd problem gyda drafftio'r fersiwn wedi'i chyfieithu o'r Bil drafft—ac roedd hynny'n eilbeth diddorol i’n trafodaeth gyfan ar sut yr ydych yn ffurfio deddfwriaeth, yn enwedig ym maes trethiant, sy’n weithgaredd newydd i’r Cynulliad hwn, ac yn un y mae gwir angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn ei gael yn iawn.
Fel yn achos y dreth trafodiad tir newydd, rydym yn gwybod y bydd treth tirlenwi'r DU yn dod i ben ym mis Ebrill 2018 a’r grant bloc yn cael ei ostwng yn unol â hynny. Felly nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddewis gwirioneddol ar wahân i ddatblygu ei threth ei hun. Fel y mae Mark Reckless newydd grybwyll, yr ymweliad â safle tirlenwi Lamby Way—roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid i fynd ar ymweliad â Lamby Way. Yn wreiddiol, roeddwn wedi bwriadu ymweld â sefydliad CERN yn Genefa y diwrnod hwnnw. Cafodd hynny ei gynllunio ychydig fisoedd cyn hynny, ond yn amlwg fe ges i’r fargen orau. [Chwerthin.] Pa mor genfigennus yr oeddwn i o'r bobl hynny a ymwelodd â Genefa, fel yr oeddem ni, ar ben Lamby Way—. Rwy’n credu bod fy het wedi chwythu i ffwrdd ar un adeg, ac fe wnaethoch chi, Mike Hedges, yn garedig ei dal. Ond roedd yn ymweliad diddorol. Dysgwyd llawer am waredu sbwriel a chafwyd trafodaeth hefyd, fel y crybwyllodd Mike Hedges, am sut y gellir gweld safleoedd tirlenwi presennol nid fel safleoedd tirlenwi yn unig, ond fel adnoddau yn y dyfodol. Mae rhywfaint o’r deunydd tirlenwi hwnnw, yn enwedig yn y safleoedd hŷn o flynyddoedd lawer yn ôl, bellach yn ailgylchadwy, a bydd yn ailgylchadwy, yn ôl pob tebyg, yn y dyfodol. Felly, mae cyfleoedd adfer posibl ar gyfer y dyfodol. Ar safle Lamby Way rwy’n credu eu bod yn cyfeirio atynt fel cyfleoedd mwyngloddio, a gododd set newydd gyfan o faterion ac ystyriaethau i ni.
Ymdriniwyd â llawer o'r meysydd yr oeddwn yn mynd i siarad amdanynt. Ond os caf droi yn fyr at yr argymhellion yn yr adroddiad hwn. Byddwn yn dweud hyn, ond rwy’n credu bod hwn yn adroddiad ardderchog gan y Pwyllgor Cyllid—da iawn i'r Cadeirydd am gadeirio'r sesiynau a arweiniodd at hyn. Mae'n adroddiad syml ac, yn wir, mae'r Bil yn llawer byrrach nag oedd y Bil treth disodli’r dreth stamp. Mae'n dda gweld, yn achos y dreth hon, fod y sesiynau tystiolaeth wedi eu cynghori yn dda, gwrandawyd ar y tystion ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn llawer o'n hargymhellion.
Mae argymhelliad 3 yn benodol yn galw am gyfraddau trethi naill ai gael eu dangos ar wyneb y Bil, neu o leiaf—cyfaddawd—iddynt gael eu cyhoeddi cyn 1 Hydref 2017. Byddaf yn cytuno â'r galwadau gan yr Aelodau eraill i’r cyfraddau treth hynny fod yn fwy amlwg. Nid wyf yn credu bod angen bod yn gytbwys ynglŷn â hyn. Nid wyf yn dweud y dylai dwylo Llywodraeth Cymru gael eu clymu ac y dylai popeth gael ei nodi ar wyneb unrhyw Fil cyllid, ac na ddylech adael unrhyw beth i reoleiddio—credaf y byddai hynny'n wirion. Ond yn achos trethiant ac yn achos y dreth hon, fel gyda threth trafodiad tir, rydym i gyd yn ceisio sicrhau trosglwyddiad esmwyth i'r gyfundrefn drethu newydd cyn gynted ag y bo modd. Mae hynny'n golygu bod angen i’r diwydiant gael hyder yn y drefn newydd a hyder y bydd yr un mor debyg â phosibl, o leiaf yn y cyfnodau cynnar, i fodel presennol y Deyrnas Unedig. Felly, rwy’n credu bod cael manylion y gyfradd ar y Bil neu gael cyhoeddi’r cyfraddau o leiaf ar ryw adeg a bennir yn y dyfodol, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ein helpu ni i gyd i gytuno â daliadau’r Bil hwn.
Os caf fi grybwyll y term hyfryd 'twristiaeth gwastraff', roedd hwn yn bryder allweddol i’r pwyllgor—wel, fe ddaeth yn bryder allweddol—ac roedd gennym i gyd ddelweddau yn ein meddwl o lorïau gwastraff yn croesymgroesi’r ffin, ac yn amlwg mae’n rhaid osgoi hyn. Fe wnaethom ddysgu, ac mae'n bwysig cofio, bod y gost o gludo gwastraff yn rhan gyfrannol fach o'r gost gyffredinol o warediadau tirlenwi. Felly, gallai gwahaniaeth cymharol fach yn y cyfraddau tirlenwi gael effaith fawr ar ymddygiad. Ac felly, roedd angen ymdrin â hynny.
Yn allweddol i greu’r dreth newydd hon y mae’r angen i gynnal y llif refeniw. Felly rhaid i’r ddeddfwriaeth hon atal tirlenwi rhag bod, unwaith eto, yn ddewis rhataf o ran rheoli gwastraff. Fel y dywedodd Mark Reckless, rwy’n credu bod gan Ysgrifennydd y Cabinet y bwriadau gorau pan ddaw at y Bil hwn gan sicrhau pontio llyfn a gwneud yn siŵr bod gennym y system dreth gwarediad tir mwyaf effeithlon yma yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf i a'r Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil treth hwn.