Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 22 Mawrth 2017.
Mae’n anodd iawn i ni feddwl, yn 2017, fod merched ifanc ledled y DU, ac o bosibl yng Nghymru, yn colli ysgol oherwydd na allant fforddio’r diogelwch hylendid sydd ei angen arnynt. Ac mae’n eithaf amlwg fod hyn yn ymwneud â thlodi. Felly, rwy’n gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet—neu Weinidog—a yw’n bosibl i chi asesu’r posibilrwydd o weithio gydag ysgolion, drwy sefydliadau elusennol, i ddarparu’r cynnyrch misglwyf am ddim sydd ei angen ar ferched er mwyn iddynt allu cymryd eu lle priodol yn yr ystafell ddosbarth, a sicrhau nad ydynt mewn sefyllfa lle y mae eu cyrhaeddiad addysgol dan anfantais.