<p>Costau Deunydd Hylendid Benywaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 1:33, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y credaf fy mod wedi dweud eisoes, wrth ateb y cwestiwn cynharach, ceir gwahanol ffurfiau ar dlodi, mewn gwahanol leoedd, gyda gwahanol bobl, mewn gwahanol ffyrdd, ar wahanol adegau. Ac mae’n rhaid i ni, fel Llywodraeth, sicrhau nad ydym ond yn ymateb i broblemau, ond ein bod yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau nad yw merched sy’n mynychu ysgolion yng Nghymru yn cael eu rhoi dan unrhyw anfantais o gwbl, ac nad ydynt yn wynebu embaras, nad ydynt yn wynebu unrhyw anawsterau o gwbl, o ran cael mynediad at addysg. Ac os oes unrhyw broblemau o gwbl gyda chynnyrch misglwyf, yna byddwn yn sicrhau bod pob cam posibl yn cael ei gymryd, ac yn cael ei gymryd yn rhagweithiol, gan ysgolion, gennym ni ein hunain ac eraill—sefydliadau ac unigolion priodol eraill—i sicrhau bod y problemau hyn yn cael eu nodi a’u datrys.