Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 22 Mawrth 2017.
Fel y dywedais wrth ateb Simon Thomas, byddem yn annog ac yn sicrhau bod ysgolion, lle bynnag y bo angen, yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt, er mwyn sicrhau bod merched yn cael mynediad at y cynhyrchion hyn, sy’n eu galluogi i gael eu haddysg. Fel y dengys y cofnodion, mae’r Llywodraeth hon wedi bod yn dadlau ers nifer o flynyddoedd na ddylid trethu’r cynhyrchion hyn yn y ffordd honno.