Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 22 Mawrth 2017.
Weinidog, mae rhai o’r adroddiadau yn y cyfryngau ar y mater hwn wedi bod yn eithaf annifyr. Mae gweld merched ifanc yn colli wythnosau o’u haddysg bob blwyddyn oherwydd eu cyfansoddiad biolegol, ac yn byw mewn tlodi, yn annerbyniol. Weinidog, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi’u cael â sefydliadau yn y DU a’r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â chael gwared ar y dreth ar werth ar ddeunydd hylendid benywaidd? A pha ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi’i rhoi i ddefnyddio eich pwerau caffael cyhoeddus i swmpbrynu deunydd hylendid benywaidd er mwyn eu cynnig am bris gostyngol, neu’n rhad ac am ddim hyd yn oed, i ferched ifanc yn y sefyllfa hon lle y mae’n rhaid iddynt golli addysg werthfawr? Diolch.