Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 22 Mawrth 2017.
A allai’r Gweinidog gadarnhau nad yw’n ofynnol i oruchwylwyr llanw addysgu dosbarthiadau, oherwydd ceir tystiolaeth anecdotaidd fod hyn yn digwydd weithiau? Eu tasg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yw rhoi’r gwersi sy’n cael eu paratoi gan yr athro dosbarth rheolaidd. Ymddengys bod peth dryswch ynglŷn â hyn.