Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 22 Mawrth 2017.
Weinidog, yn amlwg, gyda’r cynigion gofal plant y mae’r Llywodraeth yn eu cyflwyno, cafwyd cyflwyniadau gan y Llywodraeth sy’n dweud y byddwch yn defnyddio’r ystad ysgolion mewn rhai agweddau i ddarparu rhywfaint o’r capasiti hwn. A ydych yn rhagweld y bydd goruchwylwyr llanw yn cael eu hannog neu eu hyfforddi i helpu i gefnogi’r Llywodraeth wrth iddynt gyflwyno’r 30 awr o ofal plant am ddim dros yr wythnosau, fel y cynlluniwyd, neu a ydych yn rhagweld na fydd unrhyw rôl o gwbl ar gyfer y goruchwylwyr llanw a ddarperir yn yr ystad ysgolion ar hyn o bryd, naill ai mewn addysg gynradd neu uwchradd?