Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 22 Mawrth 2017.
Mae’n bwysig cydnabod, pe bai hynny’n wir, efallai y byddai gan bobl bryderon, ond gadewch i mi ddweud hyn: mae Estyn yn parhau i gyfarfod ag awdurdodau lleol, awdurdodau addysg lleol, er mwyn parhau i gynnal trafodaethau gyda hwy am y math o gymorth sydd ei angen arnynt; mae’r cynadleddau gwella sydd wedi’u cynnal ledled Cymru ar hyn o bryd yn cael eu cynllunio i edrych eto ar y ffordd rydym yn arolygu awdurdodau addysg lleol; ac nid yw’n wir i ddweud na fydd unrhyw berthynas rhwng Estyn ac awdurdodau addysg lleol am y cyfnod o amser y mae’r Aelod yn cyfeirio ato. Ac mae’n bwysig felly nad ydym yn dod i ormod o gasgliadau rhy fawr o’r datganiad hwnnw. Bydd perthynas yn parhau rhwng Estyn ac awdurdodau addysg penodol lle y mae angen y cymorth hwnnw, a bydd cyfarfodydd rhwng Estyn ac awdurdodau addysg lleol yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn.