Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 22 Mawrth 2017.
Weinidog, mae adroddiad diweddaraf Estyn hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r deilliannau arolygu ar gyfer ysgolion arbennig ddim cystal o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Mae’r canlyniadau ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion yn parhau i fod yn wael. Yn sgil hyn, pa gamau penodol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau mewn ysgolion arbennig, ac mewn unedau cyfeirio disgyblion?