Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 22 Mawrth 2017.
Rydym ni wedi amlinellu ein hymgyrch genedlaethol i godi lefelau cyrhaeddiad addysg drwy raglen o ddigwyddiadau addysgol ledled Cymru, yn cynnwys sir Benfro. Yn eu plith, mae datblygu cwricwlwm newydd a diwygio proses asesu, gwella addysg gychwynnol athrawon, dysgu proffesiynol ymhlith athrawon, meithrin arweinwyr, a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad.