<p>Gwella Addysg yn Sir Benfro</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:13, 22 Mawrth 2017

Rydw i’n ddiolchgar i’r Gweinidog am yr ymateb yna. Rydw i’n hynod o falch, hefyd, fod Ysgol Bro Cleddau, yn fy etholaeth i, wedi cael ei henwi yn ddiweddar fel llysgennad cyntaf y Cynulliad yng Nghymru, ac mae llwyddiant y cynllun wedi arwain yr ysgol i ddeall mwy am waith y Cynulliad, ac mae hyn hefyd wedi rhoi llwyfan i’r disgyblion drafod a dadlau materion cyfoes.

Nawr, yn sgil y llwyddiant hwn, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cynllun fel hwn ac annog cymaint o ysgolion cynradd â phosibl i gymryd rhan, sydd yn ei dro yn gwella addysg disgyblion, fel y gall ein cenedlaethau i ddod ddysgu mwy am y Cynulliad a’r effaith y mae’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yma yn cael ar eu bywydau?