<p>Hela â Chŵn</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:19, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae TB buchol yn fater datganoledig ac mae hela â chŵn yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, rwy’n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol wedi gweld yr adroddiad diweddar gan y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon, a ganfu fod TB buchol mewn haid o gŵn hela yn Swydd Buckingham, a bod hyn wedi arwain at ddifa tua 40 o helgwn oherwydd y perygl y byddai’r cŵn yn lledaenu’r clefyd i wartheg. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn rhannu fy mhryder na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu deddfu i fynd i’r afael â’r perygl newydd hwn yn yr ymdrech i reoli TB buchol yng Nghymru?