<p>Gorsaf Bŵer Aberddawan</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:27, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Rydych chi ychydig yn well ar y cwestiynau atodol hefyd. Felly, caf weld os gallaf eich temtio. Ers i mi gyflwyno’r cwestiwn hwn, cafwyd adroddiad pwysig iawn gan Bwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin, sydd ag argymhelliad penodol yn ymwneud â gwaith Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit. Mae’n dweud yn glir iawn fod y Pwyllgor Cyfiawnder yn argymell y dylai rôl Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd barhau fel pris gwerth ei dalu i gynnal offerynnau cyfiawnder trawsffiniol effeithiol.

Wrth gwrs, mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â chyfiawnder amgylcheddol ac allyriadau anghyfreithlon. A gaf fi ofyn i’r Cwnsler Cyffredinol, felly, yn gyntaf oll: a yw’n croesawu’r adroddiad gan y Pwyllgor Cyfiawnder ac yn gweld rôl barhaus i’r Llys Cyfiawnder wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cynnal y cysylltiadau cyfiawnder trawsffiniol hynny? Yn ail, a gaf fi ofyn iddo beth fyddai ei gyngor fel Cwnsler Cyffredinol a phrif swyddog y gyfraith yng Nghymru i ddinesydd Cymreig sy’n rhwystredig ynglŷn â’r ffaith fod gorsaf bŵer Aberddawan yn parhau i bwmpio allyriadau anghyfreithlon, er bod y Llys Ewropeaidd wedi canfod bod Llywodraeth y DU wedi tramgwyddo yn ôl ym mis Medi diwethaf?