Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 22 Mawrth 2017.
Diolch am y cwestiwn. Mae annibyniaeth y farnwriaeth yn ganolog i reolaeth y gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod unrhyw her i uniondeb barnwriaeth tribiwnlysoedd Cymru yn gryf iawn. Mae eu penderfyniadau’n seiliedig ar y dystiolaeth ger eu bron ac yn annibynnol ar Weinidogion Cymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ddoe.